Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2018
Amser:
08.30 -
08.59
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Trafododd Rheolwyr Busnes welliant Letwin ar ddiogelu'r amgylchedd i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sydd ar ei daith drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, gan ofyn a oedd angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes na fyddai cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol yn cael unrhyw effaith ymarferol ar daith y Bil ar hyn o bryd, gan fod y gwelliant bellach wedi'i gadarnhau, i bob pwrpas. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd ar gofnod yn Senedd y DU y bydd y gwelliant ond yn berthnasol i Loegr a materion a gedwir yn ôl, er ei fod wedi'i ddrafftio mewn modd sydd ychydig yn aneglur.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur briffio ar effeithiau'r gwelliant.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 4 Gorffennaf 2018 –
·
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell? (60
munud) –
gohiriwyd tan 11 Gorffennaf
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2018 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal (60 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell? (60 munud) – gohiriwyd ers 11 Gorffennaf
· Cytunodd y Rheolwr Busnes i gynnal dadl ar y cynnig a ganlyn ar 27 Mehefin 2018
NNDM6671 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i:
a) rhoi terfyn ar adeiladu tai lesddaliad preswyl yng Nghymru; a
b) gwella ymwybyddiaeth defnyddwyr o oblygiadau ddeiliadaeth lesddaliad.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i wrthod pob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau tai lesddaliad preswyl; a
b) gosod dyletswydd ar asiantwyr gwerthu a rheoli i ddarparu gwybodaeth am oblygiadau cytundebau lesddaliad i ddarpar brynwyr eiddo lesddaliad sy'n bodoli eisoes.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur, gan gytuno i ddychwelyd at y mater yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i'r newid i Reol Sefydlog a nodwyd yn y papur.